logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd Iesu, Geidwad annwyl

Arglwydd Iesu, Geidwad annwyl,
clyw ein cri ar ran y byd,
sŵn rhyfela sy’n y gwledydd
sôn am ing a thrais o hyd.
O! Na welem
heddwch yn teyrnasu byth.

O! na chaem ni weld y dyddiau
pan fo pawb yn byw’n gytûn;
brawd yn caru brawd ym mhobman
a phob dyn yn parchu dyn.
O! na welem
heddwch yn teyrnasu byth.

Boed i holl drigolion daear
wrando d’eiriau Di dy Hun,
dysgu caru ein gelynion,
gweld y gorau ym mhob un.
O! na welem
heddwch yn teyrnasu byth.

Emyn Heddwch
Edna Jones (1922 – 2010)
Tôn: Tyddyn Llwyn 423 C.Ff.
Mesur: 8.7.8.7.4.7.
Cafodd yr emyn hwn ei gynnwys yn rhaglen Cymanfa Ganu Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 13, 2024