Arglwydd, maddau imi heddiw
Am na welsom ni cyn hyn
Dywysennau llawnion aeddfed
Gwenith dy gynhaeaf gwyn:
Maddau inni’n
Llesgedd beunydd yn dy waith.
Arglwydd, agor di ein llygaid,
Arglwydd, adnewydda’n ffydd,
Maddau inni ein hanobaith,
Tro ein nos yn olau dydd;
Dyro inni
Obaith newydd yn dy waith.
Arglwydd, dyro inni d’Ysbryd,
Ac anturiwn gyda thi;
Gad in brofi brys dy alwad,
Ac ymateb iddi hi;
O! defnyddia
Ni’r anheilwng yn dy waith.
T.J.Griffith
PowerPoint