Arglwydd, maddau imi heddiw Am na welsom ni cyn hyn Dywysennau llawnion aeddfed Gwenith dy gynhaeaf gwyn: Maddau inni’n Llesgedd beunydd yn dy waith. Arglwydd, agor di ein llygaid, Arglwydd, adnewydda’n ffydd, Maddau inni ein hanobaith, Tro ein nos yn olau dydd; Dyro inni Obaith newydd yn dy waith. Arglwydd, dyro inni d’Ysbryd, Ac anturiwn […]
Rwy’n gorwedd dan fy mhwn, Yn isel wrth dy draed, Yn adde’ ‘mod yn waelach dyn Nag eto un a gaed; Rhyw ddyfnder sy’n fy nghlwy’ Mwy nag a ddeall dyn, Ac nid oes yn f’adnabod i Neb on Tydi dy Hun. O! boed maddeuant rhad, Yn hyfryd waed yr Oen, Yn destun moliant ym […]
Yr hollalluog Dduw, ein Tad nefol, Fe bechasom yn d’erbyn Di Ac yn erbyn ein cyd-ddyn, Mewn meddwl, gair a gweithred, Trwy ddiofalwch, trwy wendid, A thrwy’n bai bwriadol ni. Mae yn ddrwg iawn gennym, Edifeiriol yw ein cri; Er mwyn enw dy Fab Iesu Grist Fu farw, Fu farw. Er mwyn i ni gael […]