Arglwydd, mae yn nosi,
gwrando ar ein cri;
O bererin nefol,
aros gyda ni.
Llosgi mae’n calonnau
gan dy eiriau di;
mwy wyt ti na’th eiriau,
aros gyda ni.
Hawdd, wrth dorri’r bara,
yw d’adnabod di;
ti dy hun yw’r manna,
aros gyda ni.
Pan fo’n diwrnod gweithio
wedi dod i ben,
dwg ni i orffwyso
atat ti, Amen.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 43)