Arglwydd nef a daear,
ar d’orseddfainc gref,
engyl fyrdd a’th folant
ar delynau’r nef;
dysg i ninnau uno
yn yr anthem fawr,
sain y moliant fyddo’n
llenwi nef a llawr.
Mawr a dyrchafedig
yn y nef wyt ti;
cofiaist o’th drugaredd
am ein daear ni;
maddau in anghofio
grym y cariad drud
sy’n cysgodi drosom,
a’n telynau’n fud.
Tyred, Arglwydd tirion,
yn dy ddwyfol nerth,
dysg i’n calon
garu’r doniau mwya’u gwerth;
am yr holl fendithion ,
ddaw o’r nefoedd fry,
Arglwydd nef a daear,
moliant fo i ti.
J. J. WILLIAMS, 1869-1954
(Caneuon Ffydd 219)
PowerPoint