Atat, Arglwydd, trof fy ŵyneb,
Ti yw f’unig noddfa lawn,
Pan fo cyfyngderau’n gwasgu –
Cyfyngderau trymion iawn;
Dal fi i fyny ‘ngrym y tonnau,
‘D oes ond dychryn ar bob llaw;
Rho dy help, Dywysog bywyd,
I gael glanio’r ochor draw.
Ti gei ‘mywyd, Ti gei f’amser;
Ti gei ‘noniau o bob rhyw;
P’odd y beiddiaf gadw mymryn
O fendithion pur fy Nuw?
Ffrydiau’r nefoedd wen i waered,
Tyn garcharor caeth i maes,
Fe gaiff nef a daear glywed
Atsain gwaredigol ras.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 612)