Chwiliais drwy’r byd
Doedd dim yn bodloni
Canmoliaeth dyn
Trysorau’r byd
Mae’r cwbl mor wag
Yna cyffyrddaist fi
Iachau fy nghlwyfau dyfnion
Rhoi gobaith a chân,
rhoi ’nghalon ar dân
Drwy’th gariad di
A does dim byd sy’n well nag wyt ti
(Na) does dim byd ’n well nag wyt ti
Arglwydd, dim byd, dim byd sy’n well nag wyt ti ̓
S’gen i ddim ofn
Dangos fy ngwendid
A’m methiannau i gyd
A weli yn glir
Ond ti’n dal i mi’n ffrind
Achos, Duw y mynyddoedd
Ydi Duw y dyffrynnoedd
Does dim un man
all trugaredd a gras ̓
mo ’nghadw yn saff
Ti’n troi ’ngalar yn ddawnsio
Ti’n rhoi mawl yn lle lludw
Ti’n troi cywilydd yn obaith
Dim ond ti sy’n gallu gwneud
Ti’n troi beddau yn erddi
Ti’n troi esgyrn yn fyddin
Ti’n troi moroedd yn briffyrdd
Dim ond ti sy’n gallu gwneud
Dim ond ti sy’n gallu gwneud
Beddau yn erddi
Graves into gardens (Brandon Lake | Chris Brown | Steven Furtick | Tiffany Hudson)
Cyfieithiad awdurdodedig Cymraeg Arfon Jones
© 2019 Music by Elevation Worship Publishing (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Bethel Music Publishing (Gwein. gan Song Solutions)
Maverick City Publishing Worldwide (Gwein. gan Song Solutions)
CCLI # 7175550
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint