Bendith, anrhydedd, nerth a gogoniant
Fo i’r Duw tragwyddol yn awr.
Yr holl genhedloedd folant, a’r bobloedd
Oll ynghyd ymgrymant i lawr.
Bydd pob tafod drwy’r ddae’r a’r nef
Oll yn canu’th glodydd,
A phob glin yn plygu o’th flaen i’th foli,
A dyrchafu d’enw, O Dduw.
Para fydd dy frenhiniaeth am byth
O hardd Fab y Dyn.
Dy deyrnas, ni fydd diwedd iddi hi:
Caned pawb i hardd Fab y Dyn;
Does neb i’w gymharu â’th harddwch di:
Caned pawb i hardd Fab y Dyn.
…O hardd Fab y Dyn,
O hardd Fab y Dyn.
(Grym Mawl 2: 12)
Gary Sadler a Jamie Harvill: Blessing and Honour (Ancient of Days), Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Harlfraint © 1992. Integrity’s Praise Music. Gweinyddir gan Kingway’s Thankyou Music