Braint, braint
yw cael cymdeithas gyda’r saint,
na welodd neb erioed ei maint:
ni ddaw un haint byth iddynt hwy;
y mae’r gymdeithas yma’n gref,
ond yn y nef hi fydd yn fwy.
Daeth drwy
ein Iesu glân a’i farwol glwy’
fendithion fyrdd, daw eto fwy:
mae ynddo faith, ddiderfyn stôr;
ni gawsom rai defnynnau i lawr,
beth am yr awr cawn fynd i’r môr?
Gwledd, gwledd
o fywyd a thragwyddol hedd
sydd yn y byd tu draw i’r bedd:
mor hardd fydd gwedd y dyrfa i gyd
sy’n byw ar haeddiant gwaed yr Oen
o sŵn y boen sy yn y byd.
1 JOHN ROBERTS, 1731-1806
2, 3 GRAWN-SYPPIAU CANAAN, 1795
(Caneuon Ffydd 34)