Breuddwydion oes
Ymgasgla nawr;
Gweledigaeth ddaw
I’r sanctaidd fan.
Sanctaidd fan, rwy’n sefyll ar Sanctaidd fan,
A’m cydymaith i yw Ceidwad byd.
Llysg eirias dân
Heb ddiffodd byth;
Rwy’n sefyll nawr
Mewn Sanctiadd fan.
Datguddiwyd Duw
I feidrol ddyn;
Dinoetha’th draed
Dyma Sanctaidd fan.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Natalie Drury, This is the place (Holy Ground): Dave Bilbrough
Hawlfraint © 1997 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 2: 132)
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.