Brwydra bob dydd, cryfha dy ffydd
Crist yw dy nerth i gario’r dydd;
mentra di fyw a chei gan Dduw
goron llawenydd, gwerthfawr yw.
Rhed yrfa gref drwy ras y nef,
cod olwg fry i’w weled ef;
bywyd a’i her sydd iti’n dod
Crist yw y ffordd, a Christ yw’r nod.
Rho heibio nawr dy bryder mawr,
pwysa ar Grist bob dydd, bob awr;
pwysa, a’th enaid gaiff o hyd
fywyd yng Nghrist a’i gariad drud.
Bydd yn ddi-fraw, mae ef wrth law,
hyd atat fyth ei gariad ddaw;
cred eto fwy, cei hedd di-glwy’,
Crist fydd dy haul a’th bopeth mwy.
J. S. B. MONSELL, 1811-75 cyf. W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws
(Caneuon Ffydd: 685)
PowerPoint