Bugail f’enaid yw’r Goruchaf,
ni bydd mwyach eisiau arnaf;
ef a’m harwain yn ddiogel
i’r porfeydd a’r dyfroedd tawel.
Dychwel f’enaid o’i grwydriadau,
ac fe’m harwain hyd ei lwybrau;
ar fy nhaith efe a’m ceidw
yn ei ffyrdd, er mwyn ei enw.
Yn ei law drwy’r glyn y glynaf,
cysgod angau mwy nid ofnaf;
pery’r Bugail fyth yn ffyddlon
gyda mi ymhob treialon.
Ger fy mron yng ngŵydd gelynion
hulia ford â phob danteithion;
ac i’m cynnal rhydd o’i wirfodd
ffiol lawn yn llifo drosodd.
Ei ddaioni a’i drugaredd
a’m canlynant hyd y diwedd;
yn ei dŷ, er pob rhyw dywydd,
y preswyliaf yn dragywydd.
J. J. WILLIAMS, 1869-1954
(Caneuon Ffydd 112)
PowerPoint