logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Bydd gyda ni, O Dduw ein Tad

Bydd gyda ni, O Dduw ein Tad,
ar uchel ŵyl dy blant,
a derbyn di ein hufudd glod
ar dafod ac ar dant.

I’th enw sanctaidd, Arglwydd Iôr,
y canwn oll ynghyd;
tydi yn unig fedd yr hawl
i dderbyn mawl y byd.

Am bob rhyw ddawn diolchwn ni,
am leisiau pur a glân,
am emyn hoff a’i eiriau cain
a pheraidd sain y gân.

Esgynned ein haddoliad gwiw
mewn gorfoleddus lef
a chwydded seiniau o bob man
y gytgan “Iddo ef.”

W. EMLYN JONES, 1903-88 © N. R. Owen. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 5)

PowerPoint
PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016