Byw ar ymyl arfaeth Duw bob dydd,
Edrych ar yr addewidion oll.
Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen,
Gall mai heddiw yw y dydd.
Chwalu niwl y difaterwch sydd,
Gwawriodd newydd ddydd disgwyliad cryf.
Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen,
Gall mai heddiw yw y dydd.
Mwy na holl bŵer fy hyder i gyd
A mwy na rheswm credu mewn
Rhyw freuddwyd mewn anobaith llwyr,
sydd ond gwerddon ffug;
Gall mai heddiw yw y dydd!
O! gad i hwn fod y dydd
Pan gawn weld mor gryf yw’th fraich,
A phawb yn gweld dy nerth.
O! gad i hwn fod y dydd;
Ry’m yn barod, ‘calonnau’n ddisgwylgar,
Un llais yn cyhoeddi:
Gall mai heddiw yw y dydd!
Aeth y gaeaf heibio a’r gwanwyn ddaeth,
Newid hin, mae rhywbeth yn y gwynt.
Gobaith sydd, hedd i’n dydd, ganwyd ffydd:
Gall mai heddiw yw y dydd.
(Grym Mawl 2: 85)
Chris Bowater: Living on the edge of destiny (Today, let this be the day),
Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd Hughes Pritchard
Hawlfraint © 1997 Sovreign Lifestyle Music