Unwn bawb i ganu,
Gyda lleisiau mwyn,
Cân o glod i’r Iesu,
Cân yn llawn o swyn;
Parod yw i wrando
Cân pob plentyn bach:
O! mor hoff yw ganddo
Fiwsig pur ac iach.
Cytgan:
Canu ar y ddaear,
Canu yn y nef;
Canu oll yn hawddgar
Mae ei eiddo ef.
Canu wna’r aderyn
Fry ar frig y pren;
Enfyn ef ei emyn
Tua’r nefoedd wen;
Dylem ninnau ganu iddo ef o hyd;
Cawn ei law i’n nerthu
Beunydd yn y byd.
Cytgan
Murmur pêr yr afon
Ar ei thaith i’r môr,
Gwyd yn fwyn alawon
I’r anfeidrol Iôr;
Deffry cân y cread
Awydd ynom ni
I glodfori’r Ceidwad Am ei gariad cu.
Cytgan
D. T. Thomas (1869?-1940)
PowerPoint