Canwn fawl i’r Iesu da,
Haeddu serch pob plentyn wna;
Molwn Grist â llawen lef,
Cyfaill gorau plant yw ef.
Cytgan:
Iesu fo’n Harweinydd,
Iesu’n Hathro beunydd,
Ceidwad mad plant bach pob gwlad,
Fe’i molwn, molwn,
Molwn yn dragywydd.
Carai fel ei Dad o’r ne’,
Byw i eraill wnâi efe;
Drosom aeth i Galfari,
Caru’r Iesu fyth wnawn ni.
Cytgan
Yn y nef ei gwmni gawn,
Yn y nef ei garu wnawn;
Drosom aeth i Galfari,
Moli’r Iesu fyth wnawn ni.
Cytgan
Hawen (1845-1923)
PowerPoint