Llewyrch seren Bethlem
Welwyd yn y nef,
Hon gyhoeddodd neges
Ei ddyfodiad Ef;
Doethion dri o’r dwyrain
Ddaethant at ei grud,
Gan offrymu iddo
Eu trysorau drud.
Carol bêr yr engyl
Seiniodd yn y nen,
Proffwydoliaeth oesau
Heddiw ddaeth i ben;
Crymu wna’r bugeiliaid
Ofnus hyd y llawr,
Iddynt hwy datguddiwyd
Y rhyfeddod mawr.
Draw yn Ninas Dafydd
Ganwyd i ni frawd,
Brenin y brenhinoedd
Yn ei lety tlawd;
Gadael gwlad goleuni
Er ein hachub ni
Bobl y tywyllwch,
Aeth i Galfari.
Unwn gyda’r fintai
I’w addoli Ef,
Seiniwn ein gorfoledd
Yn yr anthem gref;
Wedi bod ym Methlem
Ni fydd neb yr un
Wedi gweld gogoniant
Duwdod yn y dyn.
Myfi Evans Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Tôn: Franconia, 65.65.D, 130 Llyfr Emynau a Thonau’r Methodistiaid Calfinaidd)
PowerPoint