Cerddwn ymlaen, calonnau’n dân,
A bydd pob cam yn weddi îr.
Planwyd gobaith a llawenydd;
Clywch yr anthem drwy y tir.
Ers dyddiau Crist mae’r fflam yn fyw,
Ni all un dim ei diffodd hi,
Mae ‘na hiraeth a dyhead
Am adfywiad drwy y tir.
Boed i’r fflam lewyrchu,
Symud y tywyllwch,
Troi y nos yn olau dydd,
Wrth in oll was’naethu,
Wrth i’n cariad ledu
Drwy ein gwlad! drwy ein gwlad!
(tro olaf)
Drwy ein gwlad!
Dilyn y gwir mewn cariad wnawn,
Yn enw lesu nerth a gawn,
I roi i’n pobl obaith nefol –
Bywyd newydd, cariad gwir.
Graham Kendrick: We’ll walk the land, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1989 Make Way Music. Sicrhawyd Hawlfraint Rhyngwladol. Cedwir pob hawl.
Cyfieithiad Awdurdodedig © 1991 Make Way Music. Defnyddir trwy ganiatâd.
(Grym Mawl 1: 174)
PowerPoint