Chwi, eneidiau, pam y crwydrwch
fel tarfedig braidd o dref?
Ffôl galonnau, pam y cefnwch
ar ei ryfedd gariad ef?
A fu cyn dirioned Bugail,
neb erioed mor fwyn ei fryd
a’r Gwaredwr a fu’n gwaedu
er mwyn casglu’i braidd ynghyd?
Mae’i drugaredd ef yn llydan,
mae yn llydan fel y môr;
ac mae gras sydd fwy na rhyddid
yng nghyfiawnder cyfraith Iôr.
Cans mae cariad Duw’n ehangach
na doethineb eitha’r byd,
ac mae calon yr Anfeidrol
yn rhyfeddol fwyn o hyd.
Y mae cyflawn waredigaeth
yn yr hwn fu ar y pren;
mae gorfoledd i’w holl Eglwys
yng ngofidiau Crist, ei Phen.
Drist eneidiau, dewch at Iesu,
ymneséwch heb amau dim;
dewch mewn ffydd yn rhin ei gariad,
profwch o’i anfeidrol rym.
Pe bai’n cariad yn fwy didwyll,
digon fyddai’i air i ddyn;
byddai’n hoes yn llawn hyfrydwch,
yn hyfrydwch Duw ei hun.
F. W. FABER, 1814-63
cyf. J. T. JOB, 1867-1938
(Caneuon Ffydd 376)
PowerPoint