Clodforwn di, O Arglwydd Dduw,
Crëwr a noddwr pob peth byw,
dy enw mawr goruchel yw:
Haleliwia!
Arnat, O Arglwydd, rhown ein bryd,
moliannwn byth dy gariad drud,
dy babell yw ein noddfa glyd:
Haleliwia!
Diolchwn am dy ddwyfol loes,
mawrygwn rinwedd angau’r groes,
bendithiwn di holl ddyddiau’n hoes:
Haleliwia!
Addolwn fyth dy enw mawr,
fe dorrodd arnom nefol wawr,
seinied dy glod dros ddaear lawr:
Haleliwia!
T. ELLIS JONES, 1900-75
(Caneuon Ffydd 124)
PowerPoint