Arglwydd, rho im glywed sŵn dy eiriau glân, geiriau pur y bywyd, geiriau’r tafod tân. Pan fo dadwrdd daear bron â’m drysu i rho i’m henaid glywed sŵn dy eiriau di. Uwch tymhestlog donnau môr fy einioes flin dwed y gair sy’n dofi pob ystormus hin. A phan grwydro ‘nghalon ar afradlon daith dwed y […]
Clodforwn di, O Arglwydd Dduw, Crëwr a noddwr pob peth byw, dy enw mawr goruchel yw: Haleliwia! Arnat, O Arglwydd, rhown ein bryd, moliannwn byth dy gariad drud, dy babell yw ein noddfa glyd: Haleliwia! Diolchwn am dy ddwyfol loes, mawrygwn rinwedd angau’r groes, bendithiwn di holl ddyddiau’n hoes: Haleliwia! Addolwn fyth dy enw mawr, […]