Clodydd anfeidrol sydd i Iesu gwiw,
Fy Iôr, fy rhan, fy mara bywiol yw;
Ynddo ‘rwy’n byw, ac arno rhof fy mhwys;
Gwaredu wna rhag distryw angau dwys.
Ef yw fy noddfa llawn rhag pob rhyw gur;
Fy nerth yw’r Arglwydd, a’m cyfiawnder pur.
Fe’m harwain drwy beryglon llif a thân;
Beunydd rwy’n gweld daioni Iesu glân.
Diwalla’m hangen byth o’i gyfoeth drud,
Ni’m collir chwaith – trugarog yw o hyd;
Trysor sydd ynddo – perl o ddwyfol fri,
A’i ras a roes y trysor hwn i mi.
O! na chawn garu Iesu’n fwy bob awr,
Olrhain ei degwch a’i ogoniant mawr,
Cuddio’n ei fynwes, ar ei ddwyfron gref,
Plygu bob dydd i’w lais a’i ‘wyllys Ef.
W. Gadsby: Immortal Honours rest on Jesus’ Head, Cyfieithwyd: Dafydd M Job
PowerPoint