Ein Tad, teyrnasa di
Yn ein calonnau ni
Tyrd gweithia trwom ni
a dangos ystyr byw.
Tyrd tania ein calonnau nawr
 fflamau gwyllt dy gariad mawr.
Ysbryd Glân meddianna ni yn llwyr.
D’eglwys ŷm ni
Rho nerth i ni yn awr.
Dy deyrnas geisiwn ni;
Sychedu amdanat ti
a gwrthod ffordd y byd
cans ti yw’n trysor drud.
I weld rhyddhau holl gaethion byd
y tlodion a’r holl gleifion sydd.
Rhoi’n bywydau i’th wasnaethu di.
D’eglwys ŷm ni
Adfer y ddaear oll.
Pâr i’th deyrnas, Dad,
Ledu drwy bob gwlad.
Dangos rym dy law
Tyrd, iachâ ein tir.
Tania d’eglwys oll
Galw Gymru nôl
Gweithia drwom ni.
Côd dy deyrnas, clyw ein cri.
Rhyddha y nerthoedd fry,
Teyrnasa drwy’r holl fyd.
All grymoedd uffern ddu
ddim rhwystro dy waith di.
Fe’n creaist ni i fwy na hyn
ie, llanwa ni â gras a grym
I wasnaethu’n byd drwy gariad Crist.
D’eglwys ŷm ni
Rhown d’obaith di i’n byd.
Build Your Kingdom Here: Rend Collective, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
© yn y cyfieithiad hwn 2011 Thankyou Music/gweinyddir gan CapitolCMGPublishing.com ac eithrio DU & Ewrop, gweinyddir gan Integrity Music, rhan o deulu David C Cook, songs@integritymusic.com