Pennill 1
Sut gall hyn fod? – bu farw Un,
Cymerodd Ef ein pechod ni,
Drwy’i aberth lloriodd angau du.
Cân, cân ‘Haleliwia’!
Pennill 2
Llawenydd ddaw fel golau’r wawr
Pan sylla’i blant ar Iesu cu.
Yn fyw y saif, eu Ffrind a’u Rhi;
Crist, Crist, atgyfododd!
Cytgan
Cododd Iesu, do cyfododd yn wir!
O, cân ‘Haleliwia!’
Bloeddia’r anthem, ‘Fe’m prynodd â’i waed;
Cododd Iesu, achubiaeth a gaed!’
Pennill 3
Lle bu amheuaeth ddwys rhyw ddydd,
Fe’i gwelsant Ef, mawr oedd eu ffydd.
Ond gwyn fyd yr un, er nas gwelodd Ef,
A gân ‘Haleliwia’.
Pennill 4
Un tro mewn ofn, nawr cryf eu cred,
Pregethu wnaethant rym Ei ras.
Trwy dywallt bywyd gwobr gaed –
Ie, bywyd tragwyddol.
Pennill 5
Mae’r Grym a’i cododd Ef o’r bedd
Nawr ynom ni – rhannwn Ei hedd.
Rhyddha ein bryd i fyw Ei ras,
Dos, d’wed am Ei fawredd.
Diwedd
[Cododd Iesu], Mae E’n fyw! Mae E’n fyw!
Pyrth y Nef sydd nawr ar led,
Mae E’n fyw! Mae E’n fyw!
Gogoneddus yw’n y Nef.
Cododd Iesu, do cyfododd yn wir:
Christ is risen, He is risen indeed (Ed Cash | Keith Getty | Kristyn Getty)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
© 2012 Capitol CMG Paragon (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Getty Music Publishing (Gwein. gan Music Services, Inc.)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint