Cofiwn am gomisiwn Iesu
cyn ei fyned at y Tad:
“Ewch, pregethwch yr Efengyl,
gwnewch ddisgyblion ymhob gwlad.”
Deil yr Iesu eto i alw
yn ein dyddiau ninnau nawr;
ef sy’n codi ac yn anfon
gweithwyr i’w gynhaeaf mawr.
Cofiwn am addewid Iesu
adeg ei ddyrchafael ef:
“Byddaf gyda chwi’n wastadol
pan ddaw arnoch nerth o’r nef.”
Daeth ei Ysbryd Glân fel golau
anorchfygol newydd wawr,
gan aeddfedu gwedd y meysydd
erbyn y cynhaeaf mawr.
Cofiwn heddiw mewn cywilydd
am fod drain ac efrau’n bla
yn dolurio wyneb daear
ac yn tagu’r tyfiant da:
ond mae gwaith yr Iesu’n allu
mwy na phechod dua’r llawr;
ein hanrhydedd ydyw arddel
meistr y cynhaeaf mawr.
JOHN ROBERTS, 1910-84 © Judith Huws. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd; 259)
PowerPoint