Craig yr oesoedd, cuddia fi,
er fy mwyn yr holltwyd di;
boed i rin y dŵr a’r gwaed
gynt o’th ystlys friw a gaed
fy nglanhau o farwol rym
ac euogrwydd pechod llym.
Ni all gwaith fy nwylo I
lenwi hawl dy gyfraith di;
pe bai im sêl yn dân di-lyth
a phe llifai ‘nagrau byth,
iawn ni wnaent i gyd yn un:
ti all achub, ti dy hun.
Dof yn waglaw at dy groes,
glynaf wrthi drwy fy oes;
noeth, am wisg dof atat ti;
llesg, am ras dyrchafaf gri;
brwnt, i’r ffynnon dof â’m clwyf;
golch fi, Geidwad, marw ‘rwyf.
Tra bwy’n tynnu f’anadl frau,
pan fo’r llygaid hyn yn cau,
pan fwy’n hedfan uwch y llawr,
ac yng ngŵydd dy orsedd fawr,
graig a holltwyd erof fi,
gad im lechu ynot ti.
A. M. TOPLADY, 1740-78 (Rock of Ages, cleft for me) cyf. ALAFON, 1847-1916
(Caneuon Ffydd 542)
PowerPoint