Crist sydd yn Frenin, llawenhawn;
gyfeillion, dewch â moliant llawn,
mynegwch ei anhraethol ddawn.
O glychau, cenwch iddo ef
soniarus ganiad hyd y nef,
cydunwn yn yr anthem gref.
Mawrhewch yr Arglwydd, eiliwch gân,
cenwch yr anthem loyw, lân
i seintiau Crist a aeth o’n blaen;
canlyn y Brenin wnaent yn rhydd
ac ennill miloedd yn eu dydd
i lwybrau nefol gras a ffydd.
Ddilynwyr Crist ymhob rhyw le,
O ceisiwch eto ffordd y ne’,
ffordd ei ganlynwyr annwyl e’.
Crist drwy yr oesoedd sydd yn fawr:
gobeithiwch yn ei enw nawr,
seiniwch ei air dros ddaear lawr.
Gorchfygol gariad Iesu gwiw,
holl wasanaethwyr teyrnas Dduw
a uno yn un teulu byw:
gan wneud d’ewyllys awn ymlaen
i newydd dasg â newydd dân;
hoed d’Eglwys yn un teulu glân.
G. K. A. BELL, 1883-1958 cyf. D. EIRWYN MORGAN, 1918-82 © y geiriau Cymraeg Dylan Morgan. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 351)
PowerPoint