Crist sydd yn Frenin, llawenhawn; gyfeillion, dewch â moliant llawn, mynegwch ei anhraethol ddawn. O glychau, cenwch iddo ef soniarus ganiad hyd y nef, cydunwn yn yr anthem gref. Mawrhewch yr Arglwydd, eiliwch gân, cenwch yr anthem loyw, lân i seintiau Crist a aeth o’n blaen; canlyn y Brenin wnaent yn rhydd ac ennill miloedd […]