Crist yw ngwobr i
A gwrthrych fy nefosiwn
A does dim byd arall sydd
All fyth modloni i.
Treialon ddaw
Ond canaf fi,
Heb droi yn ôl,
Rwy’n gwbl rydd!
Crist yw fy mhopeth i
Crist yw fy mhopeth i
Ti yw’r cwbl oll dwi angen,
Ti yw’r cwbl oll.
Crist fy mhopeth wyt,
Llawenydd fy achubiaeth,
Gobaith sicr sy ynot ti,
Y nef yw’n cartre’ ni.
Drwy bob un storm
rwyt gyda mi,
Canaf dy glod,
I ti bo’r gogoniant.
Mi benderfynais i ddilyn Iesu
heb droi yn ôl,
heb droi yn ôl.
Y byd o’m cefn i
a’r groes o’m blaen i,
heb droi yn ôl,
heb droi yn ôl.
Jonas Myrin, Reuben Morgan: Christ is enough
CyfieithiadAwdurdodedig: Arfon Jones
© Hillsong