logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cyduned y nefolaidd gôr

Cyduned y nefolaidd gôr
a llwythau dynol-ryw
i ganu’n llon â llafar lef
mai cariad ydyw Duw.

Eglura gwirioneddau’i air,
a’i drugareddau gwiw,
ac angau Crist dros euog ddyn
mai cariad ydyw Duw.

Dwyn rhyfedd waith ei ras ymlaen
mewn calon ddrwg ei lliw
a ddengys drwy’r eglwysi oll
mai cariad ydyw Duw.

Derbyniad euog ddyn i’r nef,
O’r fath ryfeddod yw,
a ddengys drwy’r trigfannau fry
mai cariad ydyw Duw.

Fy enaid clwyfus, na lesgâ,
mae modd i wella’r briw;
ti gefaist achos da i ddweud
mai cariad ydyw Duw.

GOMER (Joseph Harries), 1773-1825

(Caneuon Ffydd 165)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015