Cymer adain, fwyn Efengyl,
hed dros ŵyneb daear lawr;
seinia d’utgorn fel y clywo
pawb o deulu’r golled fawr;
dwed am rinwedd balm Gilead
a’r Ffisigwr yno sydd;
golch yn wyn y rhai aflanaf,
dwg y caethion oll yn rhydd.
Mae baneri’r nef yn chwarae,
hedeg mae’r Efengyl lon,
rhaid i’r Iesu mwyn deyrnasu
dros derfynau’r ddaear gron:
gwael yw gweled llwythau Israel,
dim ond hynny, wrth ei draed;
rhaid cael tyrfa ddirifedi
i glodfori’r dwyfol waed.
1 D. SILVAN EVANS, 1818-1903, 2 THOMAS PHILLIPS, 1772-1842
(Caneuon Ffydd 258)
PowerPoint