Cymer adain, fwyn Efengyl, hed dros ŵyneb daear lawr; seinia d’utgorn fel y clywo pawb o deulu’r golled fawr; dwed am rinwedd balm Gilead a’r Ffisigwr yno sydd; golch yn wyn y rhai aflanaf, dwg y caethion oll yn rhydd. Mae baneri’r nef yn chwarae, hedeg mae’r Efengyl lon, rhaid i’r Iesu mwyn deyrnasu dros […]
Duw mawr y nefoedd faith, mor bur, mor dirion yw, mor rhyfedd yw ei waith yn achub dynol-ryw: sancteiddier enw’r Arglwydd Iôr drwy’r ddaear faith a’r eang fôr. Daioni dwyfol Iôn a welir ymhob lle, amdano eled sôn o’r dwyrain draw i’r de: sancteiddier enw’r Arglwydd Iôr drwy’r ddaear faith a’r eang fôr. Sôn am […]