Cymer, Arglwydd, f’einioes i
i’w chysegru oll i ti;
cymer fy munudau i fod
fyth yn llifo er dy glod.
Cymer di fy nwylo’n rhodd,
fyth i wneuthur wrth dy fodd;
cymer, Iôr, fy neudroed i,
gwna hwy’n weddaidd erot ti.
Cymer di fy llais yn lân,
am fy Mrenin boed fy nghân;
cymer fy ngwefusau i,
llanw hwynt â’th eiriau di.
Cymer f’aur a’r da sydd im,
mi ni fynnwn atal dim;
cymer fy nghyneddfau’n llawn,
i’th wasanaeth tro bob dawn.
Cymer mwy f’ewyllys i,
gwna hi’n un â’r eiddot ti;
cymer iti’r galon hon
yn orseddfainc dan fy mron.
Cymer fy serchiadau, Iôr,
wrth dy draed ‘rwy’n bwrw eu stôr;
cymer, Arglwydd, cymer fi
byth, yn unig, oll i ti.
FRANCES R HAVERGAL 1836-79 (Take my life and let it be) cyf JOHN MORRIS-JONES, 1864-1929
(Caneuon Ffydd 767)
PowerPoint