Da yw bod wrth draed yr Iesu
ym more oes;
ni chawn neb fel ef i’n dysgu
ym more oes;
dan ei groes mae ennill brwydrau
a gorchfygu temtasiynau;
achos Crist yw’r achos gorau
ar hyd ein hoes.
Cawn ei air i buro’r galon
ym more oes,
a chysegru pob gobeithion
ym more oes;
wedi bod ym mlodau’n dyddiau
ni bydd eisiau gado’i lwybrau:
cawn fynediad i’w drigfannau
ar ddiwedd oes.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 771)
PowerPoint