Da yw ein byd, wrth lenwi’n hysguboriau
heb hidio dim am newyn ein heneidiau;
maddau, O Dduw, na fynnwn weled eisiau
gwir Fara’r Bywyd.
Digon i ni yw’r hyn nad yw’n digoni,
yfwn o ffrwd nad yw yn disychedu;
maddau, O Dduw, i ni sydd yn dirmygu
Ffynnon y Bywyd.
Cod ni, O Dduw, o wacter byd materol,
rho ynom flys am brofi’r maeth ysbrydol;
cawn wrth dy fwrdd ddanteithion gwledd dragwyddol
arlwy y Bywyd.
DAFYDD WYN JONES, Aberteifi. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 859)
PowerPoint