Daeth Gwaredwr gwiw i ddynion,
O newydd da;
sych dy ddagrau, gaethferch Seion,
O newydd da;
chwyth yr utgorn ar dy furiau,
gwisga wên a sych dy ddagrau,
gorfoledda yn ei angau,
O newydd da.
Daeth o uchder gwlad goleuni,
O gariad mawr,
i ddyfnderoedd o drueni,
O gariad mawr;
rhodiodd drwy anialwch trallod,
ac o’i fodd fe yfai’r wermod
roddodd dyn yng nghwpan pechod,
O gariad mawr.
Trefnodd ffordd i gadw’r euog,
O ryfedd ras;
trefnodd fara i’r anghenog,
O ryfedd ras;
yn y ffynnon ar Galfaria
gylch yr aflan, ac fe’i gwisga
â chyfiawnder fel yr eira,
O ryfedd ras.
Clywch ei lais, holl gyrrau’r ddaear,
dewch ato ef;
syllwch ar ei wenau hawddgar,
dewch ato ef;
cewch, ond derbyn ei ymgeledd,
nerth i ddringo o bob llygredd,
a chewch goron yn y diwedd,
dewch ato ef.
MYNYDDOG, 1833-77
(Caneuon Ffydd 367)
PowerPoint