Daeth Gwaredwr gwiw i ddynion, O newydd da; sych dy ddagrau, gaethferch Seion, O newydd da; chwyth yr utgorn ar dy furiau, gwisga wên a sych dy ddagrau, gorfoledda yn ei angau, O newydd da. Daeth o uchder gwlad goleuni, O gariad mawr, i ddyfnderoedd o drueni, O gariad mawr; rhodiodd drwy anialwch trallod, ac […]