Daw y dydd pan gawn weld
Pawb yn ei gydnabod ef –
‘Bendigedig fyddo Duw Hollalluog!’
Cawn weld pob glin yn plygu’i lawr
O flaen yr enw mwyaf mawr;
A chyffesu fod Iesu’n Arglwydd byw.
Cyffeswn Iesu yn ein hoedfa nawr;
Cyffeswn Iesu – Ef yw’r Brenin Mawr.
Ef yw yr Arglwydd, Gwir Fab Duw,
Fe lenwir y ddaear a’i hardd ogoniant ef.
O gylch y byd, o fôr i fôr,
Pobl sy’n ei ddilyn ef –
Y Gwaredwr, Mab Duw, ef yw’r Meseia!
Ein cyfaill ni, ein Brenin cu,
Addolwn gyda’r nefol lu,
Oll yn cydnabod –
‘Hwn yw’n Gwaredwr ni.’
(Grym Mawl 2: 4)
David J Hadden: All the earth will be filled, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1989 Restoration Music Ltd.
Gweinyddir gan Sovreign Music UK