Ddiddanydd anfonedig nef,
fendigaid Ysbryd Glân,
hiraethwn am yr awel gref
a’r tafod tân.
Erglyw ein herfyniadau prudd
am brofi o’th rad yn llawn,
gwêl a oes ynom bechod cudd
ar ffordd dy ddawn.
Cyfranna i’n heneidiau trist
orfoledd meibion Duw,
a dangos inni olud Crist
yn fodd i fyw.
Am wanwyn Duw dros anial gwyw
dynolryw deffro’n llef,
a dwg yn fuan iawn i’n clyw
y sŵn o’r nef.
Rho’r hyder anorchfygol gynt
ddilynai’r tafod tân;
chwyth dros y byd fel nerthol wynt,
O Ysbryd Glân.
GWILI, 1872-1936
(Caneuon Ffydd 593)
PowerPoint