Arglwydd gad im fyw i weled, gad im weled mwy i fyw, gad i’m profiad droi’n ddatguddiad ar dy fywyd, O fy Nuw; a’r datguddiad dyfo’n brofiad dwysach im. Gad im ddeall dy ddysgeidiaeth Arglwydd, wrth ei gwneuthur hi, gad im wneuthur yn fwy perffaith drwy’r datguddiad ddaw i mi; byw fydd cynnydd mewn gwybodaeth […]
Cenwch i’r Arglwydd, cenwch i’r Arglwydd, Iôr ein hymwared ni yw; aed yn beraidd hyd y nef aberth moliant iddo ef, bendigedig fo’r Arglwydd, ein Duw. Moeswch i’r Arglwydd, moeswch i’r Arglwydd, moeswch ogoniant a nerth; o’u caethiwed, rhoed yn rhydd fyrdd o etifeddion ffydd, mawl i enw Preswylydd y berth. Molwch yr Arglwydd, molwch […]
Ddiddanydd anfonedig nef, fendigaid Ysbryd Glân, hiraethwn am yr awel gref a’r tafod tân. Erglyw ein herfyniadau prudd am brofi o’th rad yn llawn, gwêl a oes ynom bechod cudd ar ffordd dy ddawn. Cyfranna i’n heneidiau trist orfoledd meibion Duw, a dangos inni olud Crist yn fodd i fyw. Am wanwyn Duw dros anial […]
Iesu, clywaf sŵn dy eiriau draw o fin y lli; cerddant ataf o’r pellterau, “Canlyn fi.” Uwch y dwndwr, mae acenion gwynfyd yn dy lef; llifa’u swyn i giliau’r galon, Fab y nef. Minnau iti, Aer y nefoedd, roddaf ddyddiau f’oes; rhodiaf, gyda saint yr oesoedd, ffordd y groes. Ar dy ôl y tyn myrddiynau […]
Trwy d’Ysbryd heddiw awn i’th dŷ â moliant llawn, O Dad pob dawn, clodforwn di: daioni fel y môr sy’n llifo at bob dôr, o ras ein Iôr, i’n heisiau ni. Dy holl weithredoedd rydd eu cân i Dduw bob dydd a moliant sydd ym mhyrth dy saint; trugaredd yn dy dŷ yn well na’r […]
Tydi, y cyfaill gorau, a’th enw’n Fab y Dyn, rho’r cariad in at eraill gaed ynot ti dy hun, a deled dydd dy deyrnas, dydd hawddfyd hir a hedd pan welir plant y cystudd oll ar eu newydd wedd. Mae’r eang greadigaeth yn ocheneidio’n wyw am weled dydd datguddiad a gwynfyd meibion Duw; ffynhonnell fawr […]