Pennill 1
Er mai siglo mae y byd o’n cwmpas
Er bod twyllwch nawr yn dod fel lli
Syllwn ni ar beth sy’n ddi-gyfnewid
Sefyll yn y gwir am bwy wyt Ti
Corws
Ddim hyd ’n oed nawr yn cael dy drechu
Ddim hyd ’n oed nawr ar ben ein hun
Ddim hyd ’n oed nawr wyt lai na’r Hollalluog Dduw
Ddim hyd ’n oed, ddim hyd ‘n oed nawr
Pennill 2
Er y bo’r dyfodol yn ansicr
Er bod be sy o’n blaen ni ddim yn glir
Does dim byd all byth ddileu dy bwer
Does dim byd all siglo d’orsedd Di
Corws
Pont (X4)
Ddim hyd ’n oed pe bai’r nen yn disgyn
Ddim hyd ’n oed pan mae’r gelyn yn groch
Dy eiddo yw’r gogoniant
Rwyt Ti yn gryf am byth
Corws
Cyf. Arwel E. Jones
Ddim hyd’n oed nawr / Not even now (Alisa Turner & Michael Farren)
© Farren Love And War Publishing (Gwein. gan Integrity Music) Integrity’s Alleluia! Music (Gwein. gan Integrity Music) Mercury Life Publishing (Gwein. gan Integrity Music)