Dechreuwch, weision Duw,
y gân ddiddarfod, bêr;
datgenwch enw mawr a gwaith
a gras anhraethol Nêr.
Am ei ffyddlondeb mawr
dyrchefwch glod i’r nen:
yr hwn a roes addewid lawn
yw’r hwn a’i dwg i ben.
Mae gair ei ras mor gryf
â’r gair a wnaeth y nef;
y llais sy’n treiglo’r sêr di-rif
roes yr addewid gref.
Ar yr addewid hon
anturia, f’enaid drud;
hi ddwg i’th ran drysorau’r groes
mil mwy eu gwerth na’r byd.
ISAAC WATTS (Begin, my tongue, some heavenly theme), 1674-1748 cyf. GOMER, 1773-1825
(Caneuon Ffydd 162; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 09)
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.