(Diogelwch yng Nghrist)
Deued Satan â’i holl rwydau
Deued â’i bicellau tân,
Casgled gyfoeth mawr y ddaear,
A gosoded hwy o’m blaen;
Byth ni’m temtia,
Tra fo’m henaid yn dy gôl.
Doed eilunod o bob rhywiau,
Doed y gwrthrych teca’i bryd,
Doed pleserau gwag brenhinoedd
I anturio denu ‘mryd;
Ofer hynny
Tra fo gennyf wrthrych mwy.
Ni all hwnnw, bai fy meiau,
Sydd yn bostio’i anferth rym,
Os Tydi amgylchi f’enaid,
Wneuthur unrhyw niwed im;
Rho dy Ysbryd
Ac mi goncra feiau fyrdd.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 498)
PowerPoint