Deuwn i ganu am afon mor gref,
– Cariad yw Duw –
Lifodd o galon ein Tad yn y nef
Atom i fyd dynolryw;
Cariad mor rhad;
Cariad â’i gartref ym mynwes y Tad.
Er mwyn cyhoeddi’r Efengyl i’n byd
Daeth Iesu pur,
Gyda’r colledig i drigo cyhyd,
Rhannodd eu gofid a’u cur;
Ceisiodd hwy ‘nawr,
Cadwodd, gwaredodd drwy aberth mor fawr.
Iesu sy’n ceisio’r colledig o hyd;
Crwydrant mor ffôl;
Cariad sy’n disgwyl i’n maddau i gyd,
Dewch rai blinderog yn ôl;
Cariad mor rhad;
Cariad â’i gartref ym mynwes y Tad.
Tyred i’m calon, Ti gariad di-drai,
Trig ynof fi;
Cod fi uwch balchder, cenfigen a bai,
Gwna fi yn debyg i Ti;
Rho i mi ffydd
Disgybl isel, i’th ddilyn bob dydd.
Robert Walmsley, 1831-1905 (Come let us sing of a wonderful love), cyf. Dafydd M. Job
(Grym Mawl 2: 20)
PowerPoint