’D ai ‘mofyn haeddiant byth, na nerth, Na ffafr neb, na’i hedd, Ond Hwnnw’n unig gŵyd fy llwch, Yn fyw i’r lan o’r bedd. Mae’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad, Ar orsedd fawr y nef; Ac y mae’r cyfan sy mewn bod Dan ei awdurdod Ef. Fe gryn y ddaer ac uffern fawr Wrth amnaid Twysog […]
‘Does arnaf eisiau yn y byd Ond golwg ar dy haeddiant drud, A chael rhyw braw o’i nefol rin, I ‘mado’n lân â mi fy hun. Er bod dy haeddiant gwerthfawr drud Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd, Yn rhyw anfeidrol berffaith Iawn, ‘Rwy’n methu gorffwys arno’n llawn. O flaen y drugareddfa fawr […]
Agorwn ddrysau mawl i bresenoldeb Duw; pan fydd ein calon ni’n y gân ei galon ef a’n clyw. Creawdwr nerthoedd byd, efe, Gynhaliwr bod, yw’r un a rydd i ninnau nerth i ganu cân ei glod. Haelioni llawn y Tad, pob enaid tlawd a’i gŵyr; ei dyner air a’i dirion ras a ddena’n serch yn […]
Anfon law, anfon law, anfon law, Anfon law ar y cenhedloedd, Anfon law, anfon law, anfon law, Anfon law ar yr holl bobloedd. Ennyn dân yn ein calonnau, Gwrando, ac ateb ein gweddïau: Gad in weld nerth dy Ysbryd Glân Agor holl lifddorau y nefoedd, Pâr i’r utgorn seinio, ac anfon law. Tywallt lawr arnaf […]
Arglwydd, dof gerbron dy orsedd di; Profi’r hedd sy’n dy gwmni, a’th ras ataf fi. Addolaf, rhyfeddaf y caf weld dy wedd, Canaf, O! mor ffyddlon yw fy Nuw. O! mor ffyddlon yw fy Nuw, O! mor ffyddlon yw. O! mor ffyddlon yw fy Nuw, Ffyddlon bob amser yw. O! tosturia Arglwydd, clyw fy nghri; […]
Arglwydd, rwyt mor werthfawr i mi, Arglwydd, rwyt mor werthfawr i mi, Ac fe’th garaf, Ie, fe’th garaf, Am i ti ’ngharu i. Arglwydd, rwyt mor rasol dy ffyrdd, Arglwydd, rwyt mor rasol dy ffyrdd, Ac fe’th garaf, Ie, fe’th garaf, Am i ti ’ngharu i. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, (Lord, You are so precious […]
Boed i Dduw roi i ni yn ôl cyfoeth ei rym, Gryfder nerthol drwy’r ysbryd i’n person ni, Ac i Grist wneud ei gartref yn ein calon ni, Ac i ni ddod i wybod faint mae o’n ein caru ni! Cytgan Beth yw’r uchder? [codi breichiau] Beth yw’r dyfnder? [breichiau i lawr] Beth yw’r lled […]
Boed i feddwl Crist fy Ngheidwad fyw o’m mewn o ddydd i ddydd, boed i’w gariad lywodraethu oll a wnaf mewn ffydd. Boed i air fy Nuw gartrefu yn fy nghalon i bob awr, fel gall pawb fy ngweld yn ennill trwy fy Arglwydd mawr. Boed i heddwch Duw, Dad nefol, fod yn ben ar […]
Byd newydd yw ein cri, Byd newydd yw ein cri; Byd newydd yw ein cri, Byd newydd yw ein cri. O chwifiwn faner tegwch uwchben y gwledydd. A tharo drymiau hedd ymysg cenhedloedd. Fe glywir sain trefn newydd yn dynesu. Cariad Duw lifa ’gylch y byd gan ddwyn rhyddid! O cydiwn ddwylo’n gilydd ar draws […]
Dros fynydd mawr a moroedd maith Rhed afon cariad ataf i Agoraf ddrysau nghalon gaeth Derbyn ei iachawdwriaeth Ef. Rwy’n hapus i fod yn y gwir Dyrchafaf nwylo’n ddyddiol fry A chanaf byth am ddyfod cariad Duw i lawr. Canaf am gariad fy Nuw byth bythoedd Canaf am gariad fy Nuw byth bythoedd Canaf am […]