Dewch, canwn yn llawen i’r Arglwydd,
I’r Graig sy’n ein hachub rhown hŵre (hŵre!)
A down i’w bresenoldeb â diolch
A gweiddi ein moliant iddo Ef.
Duw mawr yw ein Harglwydd byw
Brenin mawr y ddaear lawr
Dewch, canwn yn llawen iddo Ef.
Mae crombil y ddaear yn ei ddwylo
A chopa pob mynydd uchel sydd.
A’i eiddo Ef yw’r môr, Ef a’i greodd,
A’i ddwylo a luniodd y tir sych.
Dewch bawb oll ynghyd i’w addoli
I’n Duw ni ymgrymwn i lawr.
Dewch hen ac ifanc, plygwn ein gliniau
O flaen ein Gwneuthurwr mawr.
Ein Duw yw, a ni yw ei bobl,
Y defaid sy’n pori ar ei dir.
Os gwrandwch ar ei lais Ef heddiw
Cewch brofi ei nerth yn wir!
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab,
A gogoniant i’r Ysbryd Glân,
Mae yma nawr, fel roedd yn y dechrau,
A bydd yn oes oesoedd, Amen.
Tôn: Sosban Fach (tradd)
Geiriau: Salm 95 (Y Venite), addas. Cass Meurig