Dirion Dad, O gwrando’n gweddi,
gweld dy wedd sy’n ymlid braw;
dyro obaith trech na thristwch,
cynnal ni yn nydd y praw;
try ein gwendid
yn gadernid yn dy law.
Ti all droi’r ystorm yn fendith
i’n heneidiau blin a gwyw;
gennyt ti mae’r feddyginiaeth,
sydd a’i rhin yn gwella’n briw;
grym dy gariad
inni’n brofiad, digon yw.
Cymorth ni i fod yn barod
pan ddaw teithio’r byd i ben;
yn dy gwmni nid rhaid ofni’r
alwad o’r tu hwnt i’r llen;
porth fydd angau
i drigfannau nefoedd wen.
TUDOR DAVIES © Gwyn T. Davies. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 703)
PowerPoint