Doed awel gref i’r dyffryn
lle ‘rŷm fel esgyrn gwyw
yn disgwyl am yr egni
i’n codi o farw’n fyw;
O na ddôi’r cyffro nefol
a’r hen orfoledd gynt
i’n gwneuthur ninnau’n iraidd
yn sŵn y sanctaidd wynt.
Ar rai a fu mor ddiffrwyth
doed y tafodau tân
i ddysgu anthem moliant
i blant yr Ysbryd Glân;
a’r golau pur a fyddo
yn foddion o lanhad,
a sôn am achub eto
yn seinio yn ein gwlad.
JOHN ROBERTS, 1910-84 © Judith M. Huws. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 582)
PowerPoint