Dowch, blant bychain, dowch i foli’r Iesu,
cariad yw, cariad yw;
dowch, blant bychain, dowch i foli’r Iesu,
cariad yw, cariad yw.
Daeth i’r byd bob cam i lawr o’r nefoedd
er ein mwyn, er ein mwyn;
daeth i’r byd bob cam i lawr o’r nefoedd
er ein mwyn, er ein mwyn.
Fe gymerodd blant bach Galilea
yn ei gôl, yn ei gôl;
fe gymerodd blant bach Galilea
yn ei gôl, yn ei gôl.
Do, bu farw draw ar ben Calfaria
drosom ni, drosom ni;
do, bu farw draw ar ben Calfaria
drosom ni, drosom ni.
Ond ar fore’r trydydd dydd cyfododd,
daeth o’r bedd, daeth o’r bedd;
ond ar fore’r trydydd dydd cyfododd,
daeth o’r bedd, daeth o’r bedd.
Canu iddo heddiw mae angylion
yn y nef, yn y nef;
canwn ninnau iddo o un galon,
iddo ef, iddo ef.
NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)
(Caneuon Ffydd 406)
PowerPoint