Down i’th wyddfod, Dduw, kwmbayah,
down yn unfryd, Dduw, kwmbayah,
i’th foliannu, Dduw, kwmbayah,
O Dduw, kwmbayah.
Gwna ni’n addfwyn, Dduw, kwmbayah,
gwna ni’n un, O Dduw, kwmbayah,
wrth dy allor, Dduw, kwmbayah,
O Dduw, kwmbayah.
Arnom ni, O Dduw, kwmbayah,
boed dy wên, O Dduw, kwmbayah,
golau d’air, O Dduw, kwmbayah,
O Dduw, kwmbayah.
Tyn ni’n rhydd, O Dduw, kwmbayah,
o’n balchderau, Dduw, kwmbayah,
i’th was’naethu, Dduw, kwmbayah,
O Dduw, kwmbayah.
CYNHADLEDD EGLWYSI AFFRICA GYFAN efel. HUW ETHALL © Rhian Ithel. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 50)